Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I BLAS RHIWAEDOG.

PLAS Rhiwaedog sydd hen balasdy hynod,
Bu gynt yn drigfod tywysogaidd fardd;
Dymunol fan i dremio i'r gorphenol
I bell gyfriniol hanes Cymru hardd ;
Saif yn ddigryn, gofgolofn syn y cynfyd,
Gorwedda arwyr rhyddid dan ei lawr,
Ei enw sy'n goffhad amseroedd enbyd,
A llanerch waedlyd lle bu brwydr fawr.

Bu'r Berwyn mawr drwy chwyldroadau amser,
Yn syllu gyda balchder uwch ei ben;
Gan dremio'n mhell uwchlaw y niwl a'r stormydd
Ar doriad gwawr—ddydd Gwalia wen ;
Mae heddyw mewn tawelwch balch yn syllu,
Ar drais yn trengu,—ac yn taflu gwen,
Fel hen dywysog gwladgar uchelfrydig,
Ar gartref cysegredig Llywarch Hen.

Hen blas Rhiwaedog, bu gwroniaid ffyddlon
Yn colli gwaed eu calon bur yn lli,
Yn rhoi eu hunain yn aberthau gwaedlyd
Ar allor rhyddid o dy amgylch di;
Dy enw a gysylltir gan adgofion,
A hanes arwyr glewion Cymru fad,
Er cof am Gwawr a Riryd Flaidd ac Einion,
Cei wisgo coron loew serch dy wlad.

Hen balas syn, ti welaist fonedd Meirion
Yn erlid dynion am bregethu Crist,
Ond gweli heddyw demlau 'n cael eu codi
I enw'r Iesu ar eu beddau trist;
Ti welaist lawer o ddaearol rysedd,
A gwag oferedd rhwng dy furiau clyd,
A gwelaist gleddyf barn yn llaw dialedd
Yn rhoddi diwedd ar y rhwysg i gyd.

Balasdy hen, wyt megis dolen gydiol
Rhwng y presenol a'r gorphenol mud,