Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pa beth wna ddyn? nid gallu cryf
I lywodraethu gwlad;
Nid bod yn ddewr, nid bod yn hyf,
Wrth arwain llu i'r gad;
Nid ydyw hyn ond rhan o'r bod
A wnaed ar ddelw'r un
Sy'n gofyn llawer mwy o glod
Cyn byth bydd dyn yn ddyn.

Pa beth wna ddyn? cymeriad pur,
A chred trwy ffydd yn Nuw,
Mae hyn yn ddigon rhag pob cur
All gwrdd y ddynolryw;
Pa beth wna ddyn? ei gariad ef
At bawb fel ato'i hun,
Mae hyn yn ddigon gan y nef
I wneyd pob dyn yn ddyn.


MR. T. E. ELLIS, A.S.

GWRON a phur wladgarwr—a welwn
Yn Ellis ein noddwr;
Hwn i'n saif, mae hyn yn siwr,
Yn addas ddoeth seneddwr.

Dyma arwr, enaid Meirion,—wele
Anwylyd ei chalon;
Rhoddi'i llaw yn rhwydd a llon,
O gariad wnaeth i'w gwron.

Gwr a'i lon'd o diriondeb—gwyl enwog
Haelioni 'n ei wyneb;
A'i ddoniau'n llawn rhwyddineb,
Ei ail yn wir ni wel neb.