Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FY MAM

FY mam, fy mam, fy anwyl fam,
Mor swynol yw yr enw:
Ha, dysgais hwn cyn rhoddi cam
Mewn byd o boenau chwerw
Hen enw hoff, fe'th gerfiwyd di
Ar lech fy nghalon egwan,
Ac yno mae er pan ow'n i
Yn dwyn yr enw baban.

Fy mam, fy mam, fy anwyl fam,
Mae'r enw'n enyn teimlad,
Nes gwneyd fy mynwes wael yn fflam
Wrth gofio am y cariad
Ddangosaist im' pan oedd y byd
Yn gwgu ar fy llwybrau :
A gwylio wnest uwchben fy nghryd,
Gan dywallt dy weddiau.

Fy mam, fy mam, fy anwyl fam,
Mor felus ydyw cofio
Dy eiriau di—nid rhyfedd pam
Nas gallaf dy anghofio;
O na pe rhoddid llais i'r byd,
I ddweyd un gair yn daran,
Fe gofiwn am y gair o hyd
A ddysgais pan yn faban.

Fy mam, fy mam, fy anwyl fam,
Dy fendigedig enw
A gofiaf pan yn rhoddi cam
O'r byd i fro y marw;
A phan bydd udgorn Duw o'r nef
Yn galw ar y meirwon,
Sibrydaf mam ag egwan lef
Yn nghanol yr angylion.