Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAERGAI.

HEN gartref hoff Ceridwen,—
A noddfa i deulu'r awen,
A fuost ti Caergai;
O'th ddeutu y Rhufeiniaid
Fu'n ymlid y Britwniaid,
Ond cartref i'n gwroniaid
A fuost ti Caergai.

'E fegaist di dy Werfyl,
Ac iddi cartref anwyl
A fuost ti Caergai;
Mae cof am dy anwyliaid,
Yr anwyl hoff Fychaniaid,
Yn dweyd mai lle bendigaid
A fuost ti Caergai.

Mae'r llyn a'i donau arian
Yn tynu llun yr Aran,
O danat ti Caergai;
Ond beth yw'r darlun hwnw
I'r darlun welir heddyw
Mor fyw 'n y muriau acw—
Dy furiau di Caergai?

Hen gartref i enwogion,
Fu'n colli gwaed eu calon,
A fuost ti Caergai :
Rhoddasant eu bywydau
Yn ebyrth ar allorau
Eu rhyddid rhwng dy furiau—
Dy furiau di Caergai.

Fe sieryd dy hen furiau
Rhyw hanes yn gyfrolau——
Dy hanes di Caergai;
A chydiol ddolen oesol,
O fedd y byd gorphenol :
Ond byw yn y dyfodol
A fyddi di Caergai.