Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caf yno wel'd fy hoffus un,
Yn seinio cân i Fab y Dyn,
Am oesau maith diderfyn;
Bydd holl angylion nef y nef,
O gylch ei orsedd eurog ef,
Yn canu mawl ag uchel lef,
I Frenin gwlad y delyn."


Y FRONFRAITH.

WI, wi, yw cân y fronfraith seinber,
Sydd fry ar frig y pren:
Mor swynol yw ei chân bob amser,
Wi, wi, myfi yw'r pen;
A'i nefol odlau hon a ddena
Y Gwanwyn yn ei ol?
Yr hwn â mantell werdd a wisga,
Hardd wyneb bryn a dôl.

Cerddorfa'r goedwig sy'n adscinio
Eu hodlau bob yn ail,
A'r awel fwyn sydd yn CYFEILIO
Eu nodau rhwng y dail;
Ond UNAWD y cantorion genir
Gan lais y fronfraith fwyn,
Yr hwn yn fôr o fawl a glywir
Draw, draw yn nghwr y llwyn.

Mae rhywbeth yn ei chân yn lloni
Fy mhrudd ofidus fron.
'Rwyf weithiau fel pe yn gwirioni
Wrth wrando nodau hon;
Wi, wi, fy hoff aderyn anwyl,
Sydd yn fy nenu i
I amheu, ai nid cân yr engyl
Yw'r gân sydd genyt ti?