Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y BLODAU.

HENFFYCH iti, Wanwyn anwyl,
Esgor wnei ar flodau mwyn,
Per a sawrus yw'r awyrgylch,
Llwythog yw o nefawl swyn
Ar dy fynwes gwelaf emau,
O liw'r enfys deg ei gwawr,
Ac mae'r gwlith geir ar ei gruddiau
Yn eneinio'u gorsedd fawr.

Dacw'r haul o'i orsedd enwog,
A'i belydrau byw yn dod,
Gan ymarllwys ei ogoniant
Ar y blodau rhydd ei nod;
Ac mae tyner law yr awel
'N siglo'r gwlithyn yn ei gryd,
O na cha'em ni fel y blodau
Gau ein llygaid ar y byd.

A chywreinrwydd anfarwoldeb
Wele Duw a'i ddwyfol law
Yma'n paentio'r blodau mirain
Ar y meusydd hoff gerllaw;
Plant y ddaear,—darlun perffaith
O ardd Eden yn ei rhwysg,
yn hen maent eto newydd
Pan ddeffroant hwy o'u cwsg.

Dyma GARPET weuodd natur
Trwy rhyw drefn anfeidrol fawr,
Dyma barlwr demtia engyl
Dan ein traed yn hulio'r llawr;
Dylem gofio pan yn cerdded
Mewn myfyrdod ar y ddol,
Os gwnawn fathru un o'r blodau
Rhaid cael Duw i'w creu yn ôl.