Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

OS MATHRWYD Y CEDYRN.

OS mathrwyd y cedyrn tan draed y gelynion
Trwy ormes eiddigedd a brad,
Os gweiniwyd y cleddyf yn ngwaed eu calonau,
Bu'r Cymry yn ffyddlon i'w gwlad,
Os trengu a ddarfuant, mae'u lleisiau'n taranu,
Trwy oesoedd twyllodrus y byd,
Am ini fel cenedl amddiffyn ein rhyddid,
A gwylio 'r gelynion o hyd.

Gwroniaid wyllt Walia, mae'ch enwau 'n gerfiedig
Ar galon pob Cymro dinam;
Sibryda'r babanod eich henwau anfarwol
Cyn gadael mynwesau eu mam.
Adfeilion eich cestyll a saif yn golofnau,
Maent eto mewn urddas a bri;
Tra careg ar gareg fe fydd y gwir Gymro
A'i serch yn glymedig a chwi.

Fe gwympodd byddinoedd Glyndwr a Caradog,
A chwympodd Llewelyn ein Llyw,
Yn aberth tros ryddid hen Gymru fynyddig,
Lle bu ein gwroniaid yn byw,
Os cawsant eu hudo tan fantell bradwriaeth,
A'u cadw gan elyn dan droed;
Mae swn buddugoliaeth yn adsain trwy'r creigiau
Fod Cymru mor fyw ac erioed.


I LEWIS E. HOWEL, LLANFOR

I lys Ior, Lewis Howel—ehedodd
I deyrnas yr angel;
Yn flod'yn gwyn , gyfaill , gwel
Ei osod mewn bedd isel.