Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I LYFR FY NGHYFAILL GWAENFAB.

ΕΙ "Furmuron" tirionwedd—anwylir
Gan luoedd trwy Wynedd;
Yn ei lyfr rhydd i ni wledd,
Gâr enaid mewn gwirionedd.

Dyma uniad—dymunol,—ein Gwaenfab
Mewn gwynfyd barddonol;
Ei ddoniau awenyddol
I oesau fyrdd saif o'i ol.


LLYGAD Y DYDD.

LLYGAD y dydd, sydd a'i swyn—dihalog
Hyd y dolydd hyfwyn;
Ynddo ein Duw sydd yn dwyn
Gwenau dwyfol i'r gwanwyn.


YR ELOR.

HEBRYNGYDD hyd lwybr angau yw'r elor,
I alwad y beddau;
I ddwyn heb rwysg, wyw ddyn brau,
I lawr isel yr oesau.


Y GWANWYN.

GWENU mor dlws wna'r Gwanwyn—a'i urddas
Sy'n harddu y flwyddyn;
Gwelir yn glir ar bob glyn
Wyneb ledodd y blodyn.