Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y BABAN YN MARW. Miwsig gan Mr. J. Thorman, (Twrog.)

AR aelwyd lan hawddgarol,
Gyda'r nos, gyda'r nos;
Eisteddai'r fam rinweddol,
Gyda'r nos;
Yn gorwedd ar ei gliniau
'Roedd plentyn bach mewn poenau
Mor chwerw oedd y dagran
A dreiglai'i lawr eu gruddiau,
Gyda'r nos, gyda'r nos.

Wrth weled serch ei chalon,
Gyda'r nos, gyda'r nos,
Ar fyn'd i fro 'r angylion,
Gyda'r nos;
Erfynia 'n daer trwy weddi
Ar Dduw ei adael iddi;
Ond angau oddiarni
Gymerodd ei thlws fabi,
Gyda'r nos, gyda'r nos.

Mor debyg i'r hardd flod'yn
Gyda'r nos, gyda'r nos,
Gogwyddai pen y plentyn
Gyda'r nos;
Ond yn y boreu'r gwlithyn
Adfywia'n ol y rhosyn,
Nid felly gyda deigryn
Y fam uwchben ei phlentyn
Gyda'r nos, gyda'r nos.

Fe ddaw y boreu hwnw
Gyda'r wawr, gyda'r wawr,
Pan gyfyd oll o'r meirw
Gyda'r wawr;
Angylion fydd yn dadgan
Eu mawl i Dduw ei hunan,
Ac yn eu plith y baban
Ar edyn nef yn hedfan
Gyda'r wawr, gyda'r wawr.