Y BEDD
Y BEDD, y bedd! y du oer fedd,
Mae arswyd lon'd dy enw :
Hen fro'r distawrwydd—tawel hedd
Yw unig gell y marw;
O gyrhaedd swn helbulon byd
Ymlecha'r dawel anedd,
A dyma'r fan yr awn i gyd
Hyd foreu'r farn i orwedd.
Y bedd, y bedd! y dirgel fedd—
Lle distaw i ymguddio,
O swn y hyd mewn tawel hedd,
I Gristion wedi blino;
I fynwes gudd ei fam yr â,
A hithau a'i cofleidia,
'R un fath a'r ddeilen ddiwedd ha'
I'r ddaear y disgyna.
Y bedd, y bedd, gloedig fedd,
Fe gleddir ynot berlau,
Y rhai fu gynt yn hardd eu gwedd,
Ond heddyw rhwng dy furiau:
Hyd foreu'r farn, mewn tawel hun,
Yn nghrombil y ddaearen,
Y bedd, y bedd! yw diwedd dyn—
Y balch, y cryf, a'r llawen.
Y bedd, y bedd! hiraethlawn fedd,
Fe roddir arnat weithiau
Hardd flodau haf i wenu hedd
Ar farwol fynwes angau;
Ond beth yw rhai'n i'r blodau sydd
Yn gwenu mewn sirioldeb
Uwchlaw y bedd mewn bythol ddydd
Yn ngerddi anfarwoldeb?