Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y bedd, y bedd! yn mynwes bedd
Y caiff y tlawd orphwyso;
Ac yma'r annuw hyf di—hedd
Am byth a baid a'i gyffro;
I gorph lluddedig wedi byw,
Ac ymladd â thymhestloedd,
Gorphwysfa dawel, dawel yw,
Y bedd rhwng byd a nefoedd.
Y bedd, y bedd! hen farwol fedd,
Dy ddorau a agorwyd

Gan Iesu Grist, tywysog hedd,
Creawdwr bedd a bywyd :
Ar foreu'r farn rhyddheir i gyd
Dy garcharorion dithau,
Mae agoriadau "beddau'r byd "
Gan un orchfygodd angau.

ER COF

Am Mrs. Jannet Evans, Plase, Bala.

CHWITH yw meddwl na chawn eto
Wrando ar ei chynghor hi,
Tystio hyn mae dagrau hiraeth
Geir ar lawer grudd yn lli;
O mor anwyl oedd ei gweled
Yn ei chartref ar ei sedd,
Ah! mor drwm yw'r syniad heno
Ei bod hithau yn y bedd.

Yn yr Ysgol Sul mae gwagder
Ag sydd yn dyfnhau ein clwy',
Tra'n awgrymu gyda phrudd—der
Na ddychwelai yma mwy,
Ac mor anhawdd ydyw imi
'Nawr anghofio 'i siriol wedd,
Ond 'rwy'n gorfod pan yn cofio
Ei bod hithau yn y bedd.