Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tu ol i'r bwth mae llwyn o goed
Ar lethrau mynydd Berwyn,
Yn sefyll fel colofnau byw
Uwchben fy anwyl fwthyn;
A cher ei dalcen bychan gwyn
Caf wel'd y meusydd gwyrddion
A'r llwybr cul sy'n arwain i'r
Hen fwthyn bach yn Meirion.

Ymgodai'r bryniau tua'r nen—
Cusanent y cymylau,
A'r afon fywiog ar ei thaith
Sy'n maethu 'i gwyrddion lanau;
'Rwyn gwel'd y fynwent ger y Llan
Yn llawn o'm hen gyfeillion
Chwareuent gynt wrth gareg drws
Hen fwthyn bach yn Meirion.

O fewn y byd nid oes un lle
I'm golwg mor ddeniadol,
Ac ni fedd cymoedd Cymru fad
Wyn fwthyn mor henafol
Os hoff gan frenin balas hardd
Ac urddas mawr ei goron,
Hoffusach genyf yw cael byw
Mewn bwthyn bach yn Meirion.


I'R DONIOL W. E.

UN doniol, a'r gwir am dani―yw hyn,
'Does neb all ddweyd 'stori,
Na hanes mor hynod i ni,
A dyblu hwyl, fel W. E.