Y BWTHYN AR WAELOD Y LLYN
FE ddeffry adgotion fy maboed,
Adgofion am danom yn blant,
Pan oeddym yn fyw ac ysgafndroed
Yn chwareu ar finion y nant;
Ond heddyw, pa le mae y bwthyn
Fu'n llechu yn nghesail y bryn?
Fe ddywed mân donau y dyffryn,
Mae'r bwthyn ar waelod y Llyn.
Gorchuddiwyd a mantell arianaidd
Dlysineb angherddol y ddôl,
Orweddai mewn gwisgoedd sidanaidd
Cyn dyfod o'r afon yn ol;
I grwydro o'i gwely henafol,
Ei thonau a ddywed fel hyn,―
Yn ddistaw mewn iaith mor naturiol,
Mae'r bwthyn ar waelod y Llyn.
Mae'r murmur cwynfanus yn treiddio
I eigion fy nghalon fel saeth,
Mae'r cyfan yn gwneyd i mi gofio
Fod aelwyd y bwthyn yn draeth;
Y pysgod sydd yno yn chwareu
Oddeutu y talcen bach gwyn,
Ond dyna, yn sibrwd mae'r tonau—
Mae'r bwthyn ar waelod y Llyn.
Fe wyrai y coedydd eu brigau
Yn wylaidd, a gwelant eu llûn
Yn dawnsio ar wyneb y tonau
(Y tonau a ddodwyd gan ddyn);
I guddio hen fangre fy mebyd
Mae pobpeth yn sisial fel hyn,—
Ysbrydion fy nheulu sy'n sibrwd,
Mae'r bwthyn ar waelod y Llyn.