LLYWARCH HEN
WELE olion yr hen furiau,
Dyma'r fan lle trigai gynt;
Yma clywodd swn cleddyfau
Ato'n do'd ar fraich y gwynt:
Gwelodd daflu cyrff ei feibion,
Do, yn sarn o dan y traed
Fu'n gormesu broydd Meirion,
'Rhai a gochwyd gan eu gwaed.
Wele'r llecyn lle bu'n sefyll
Mewn myfyrdod lawer tro,
Dacw'r fan lle bu ei wersyll
Yn guddiedig dan y grô ;
Er fod 'stormydd amser wedi
Chwalu yr hen furiau gwiw,
Y mae hanes am wrhydri
Llywarch Hen trwy Gymru'n fyw.
Wele'r glaswellt wedi tyfu
Lle y crwydrai ar ei hynt,
Ond traddodiad dd'wed er hyny
Wrthym am ei lwybrau gynt;
Bu yn cerdded Tre Rhiwaedog
Hyd yr hen Rufeinig ffyrdd ;
Yn lle'r palmant gwych, godidog,
Heddyw gwelir mantell wyrdd.
Wele'r maes lle bu'r ymladdfa
Am yr hon ceir hanes prudd,
Hanes am wroniaid Gwalia
Yn ymdrechu am y dydd :
Ond y gelyn a orchfygwyd,
Ha, mor fawr yr aberth wnaed;
Pedwar mab ar bymtheg welwyd
Yno'n gorwedd yn eu gwaed.