Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HEN EGLWYS LLANYCIL

HEN Eglwys Llanycil, mae'th furiau henafol,
A'r llanerch lle sefi yn anwyl i mi,
Ac anwyl fu'th enw i'r tadau boreuol
Y rhai fu'n dy gadw mewn urddas a bri:
Dy enw anwylir gan luoedd o seintiau
Sydd heddyw yn canu gylch gorsedd yr Oen,
Mor felus yw cofio mai rhwng dy hoff furiau
Y cawsant eu harwain o gyrhaedd pob poen.

Hen Eglwys Llanycil, mae'th ddelw'n gerfiedig
Ar ddalen fy nghalon, mor fyw ydwyt ti,
Er crwydro o honof i wledydd pellenig
Mae cof am dy enw yn anwyl i mi;
Ac weithian tra'n syllu ar demlau urddasol
Nis gallaf d' anghofio er hardded eu pryd,
Mil harddach i'm golwg yw'th furiau henafol
Na'r muriau urddasol sy'n britho y byd.

Hen Eglwys Llanycil, mae'r cedyrn fynyddau
Fel engyl gwarcheidiol yn aros o hyd
I'th wylio yn ddystaw, ac ateb mae'r creigiau
Swn seinber dy hengloch trwy oesau y byd—
Yr hon am ganrifoedd fu'n galw yn ffyddlon
Blwyfolion Llanycil i wyddfod eu Tad
I ddyfal weddio—i arllwys eu calon
Mewn diolch a moliant am fendith a rhad.

Hen Eglwys Llanycil, mae'r huan yn ceisio
Gwneyd darlun o honot—o'th gysgod dy hun;
Ac yna tan wenu mae'n araf ymgilio,
Draw, draw dros y bryniau, ond beth am y llun?
Diflanu wnaeth hwnw yn nghwmni'r arlunydd,
Yn mhell dros y gorwel, a methu wnaeth e'
Wneyd darlun mor gywir o "Eglwys Llanycil"
A'r hwn sydd ar galon ei saint yn y ne'.