Y pysgod, y defaid, a'r friallen penfelyn—
Y cyfan yn llenwi'r un cryd;
Ymlechai'r mân adar yn mrigau y goedwig
Yn disgwyl am doriad y wawr,
A gwyrai'r glaswelltyn ei ben yn lluddedig
I aros dyfodiad y cawr:
Yn araf, yn araf, daw yntau o'i wawrlys
Gan ymlid tywyllwch y nen,
A lliwiau'r cymylau yn unlliw a'r enfys,
A'r Berwyn goronai yn ben;
Ymlithra'i belydrau ar ddyffryn Edeyrnion,
Ac O! 'r fath groesawiad a ddyd:
Y mân wlith fel gemau o'u gorsedd gwyrddleision,
Yr awel yn siglo eu cryd;
Yr adar yn pyncio eu mwynaidd acenion,
Eu lleisiau 'n telori pob llwyn,—
Eu hanthem felodaidd nis gall ond angylion
Berori perseiniau mor fwyn;
'E godai'r glaswelltyn ei ben i groesawu
Prif arwr mawreddog y dydd,
Ac yna mewn eiliad holl anian a ddeffry
Edeyrnion o drwm—gwsg a drydd.
Draw, draw ar y ddoldir 'e gawn yr amaethwr
Yn heini ac ysgafn ei droed,
Dychmygaf ei glywed yn dweyd wrth y gweithiwr
Fod anian mor fyw ag erioed;
A draw yn y fuches sisialai genethig,
Wrth odro, alawon ein gwlad;
Y bachgen a'r meirch ar y ddol yn aredig,
Ei enaid yn llawn o fwynhad;
Daw'r bugail i'r buarth i alw ar Cymro,
Daw yntau tan hwthio ei drwyn
I ddwylaw ei feistr o falchder wrth wrando
Brefiadau y defaid a'r wyn;
A chripiant i fyny hyd lethrau y Berwyn,
Gan adael Edeyrnion, deg fan,
Yn fyw o lawenydd, a phawb yn y dyffryn
Yn hapus yn gweithio ei ran.