WRTH DAN O FAWN
EISTEDDAI teulu dedwydd iawn
Ar aelwyd lan wrth dân o fawn,
Yn gylch o gylch y pentan;
'Roedd pawb yn llawen ac yn llon
Oddeutu'r tân y noswaith hon.
Heb friw na braw o dan eu bron
Mewn bwth ar odrau'r Aran.
'Roedd gwr y ty yn ddyn o ddawn,
Yn fardd o fri,—wrth dan o fawn
Mor felus ei ganeuon;
Wrth wrando ei ganigau mwyn,
Hudolus oeddynt llawn o swyn,
Ac adgof heno sydd yn dwyn
Eu hecco i fy nghalon.
'Rol gwaith y diwrnod croeso gawn
Gan wraig y ty, wrth dan o fawn
A gwenau teg a siriol;
Yn rhai'n caed môr o wir fwynhad
Wrth weini ar y teulu mad
Tan wenau hon,—d'oes undyn wad
Fod aelwyd mwy dymunol.
Fel pe i wneyd y cylch yn llawn,
Roedd "Bouch "y ci wrth dan o fawn
Yn gorwedd ar yr aelwyd;
Mae hwn yn hawlio parch a bri
Fel un o'r teulu, 'ddyliwn i,
A ffyddlon iddynt fu'r hen gi.
A chyfaill pur trwy'i fywyd.
Gwaith anhawdd ydyw dweyd yn llawn
Y cysur geir wrth dân o fawn,
O gyrhaedd oerni'r tywydd;
Os hardd yw yr aelwydydd drud,
Sy'n urddo cain balasau'r byd,
Mil harddach ydyw'r aelwyd glyd
I'r teulu bychan dedwydd.