Nis gallent hwy amgyffred chwaith,
Er meddwl mwy a mwy,
Paham fod llygaid taid mor llaith
Wrth edrych arnynt hwy.
A dyna dd'wedai cyn bo hir,
'Fy mhlant, na foed i chwi
Anghofio arddel byth y gwir
Sydd yn ein teulu ni;
Ewch oll i ben y Mynydd Du,
A chofiwch hyn bob dydd,
Fod hanes anwyl Cymru Fu
Yn rhan o Gymru Sydd.
Yr haul a'i aur belydrau gusanai gyda gwên
Gan ymlid mantell dywell nos oddi ar y muriau hen—
Y rhai fel dolen gydiol, draw o'r gorphenol mud,
Fu'n uno teulu Ifor Wyn trwy oesau maith y byd.
Hen fangre gysegredig oedd aelwyd lan y ty
I dremio'n mhell tu draw i'r niwl i hanes Cymru Fu;
Edrychai pawb yn hapus wrth danllwyth mawr o dân
Tra un yn nyddu gyda'r droell a'r llall yn trwsio gwlan,
A'r plant o gylch yr aelwyd—yn nwyfus ac yn llon,
Yn gwylio'u tad yn gwneyd llwy bren neu ynteu wneyd ei ffon.
'Rol cadw'r pecinynau, a'r llestri oll i gyd,
Darllenai taid o'r Beibl mawr ryw benod ar ei hyd,
A byddai yn egluro—adnodau ddwy neu dair,
Er mwyn i'r plant gael gwybod beth feddylid wrth y Gair;
Ac yna äi i weddi,—gweddio'n daer wnai ef,
Gan dywallt ei holl enaid glân wrth orseddfainc y nef:
Ar ol y weddi gwelid y plant o un i un
Yn myn'd i fro'r breuddwydion pur, i wlad y melus hûn.
Ac yno gwelant weithian Dylwythau Teg yn fyrdd
Yn dawnsio ar ryw lecyn hardd, yr oll mewn mentyll gwyrdd,
A 'Teida' yn eu canol yn dawnsio 'n ddigon llon,