Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Roedd son am deulu'rHafod a'u defaid trwy'r holl wlad,
Fel bugail caed yn Ifor Wyn cain ddarlun byw o'i dad.
Arferiad teulu 'r Hafod, ar Ddydd Gwyl Dewi Sant,
Oedd gwisgo y geninen werdd, 'rhon dyfai'r fin y nant;
A mawr oedd y llawenydd yn Hafod Elwy lân
Pan welwyd Taid ar bwys ei ffon ar fin y dyfroedd glân,
Yn hel yr hardd geninen,—a'r plant o un i un
Ddanghosent iddo yn y dwfr mor anwyl oedd ei lun;
A gwiriwyd y ddihareb—a hyny gyda gwen,
Fod pob hen wr fel Teida Wyn yn blentyn pan yn hen,
'R ol gwisgo pawb o'r cenin dychwelodd Taid yn ol
I'r ty, ac ymaith 'raeth y plant i chwareu hyd ddol:
Ond cyn bo hir fe welsant eu tad yn dod draw, draw,
Yn cario yn ei freichiau oen, a dafad yn ei law;
Fe redent am y cynta i'r Hafod at eu mham
Iddweyd fod tada bach yn dod tros gamdda'r Werglodd gam;
Ac o mor siriol 'roeddynt, rhyw ddarlun prydferth tlws
Oedd gweled teulu Ifor Wyn'n ei ddisgwyl yn y drws.
Ychydig wyddai Ifor Wyn fod angau, brenin braw,
Ar ddod cyn hir i'w anwyl fwth a'i gleddyf yn ei law.

Ymsuddai'r haul i'w wely, a lleni'r distaw nos
Yn araf ddaeth gan daflu'i chlog tros wyneb bryn a rhos,
Ac anian aeth i huno i ddistaw fedd y dydd,
Tra gwyliai'r ser a'r lleuad dlos y dwyfol flodau blydd:
'Roedd taid yn dweyd chwedleuon, er mwyn dyddanu'r plant,
Am wyrthiau rhyfedd wnaed cyn hyn trwy'r wlad gan Dewi Sant,
A dyna'r noson olaf i'r teulu dedwydd hyn
Gael gwrando ar chwedleuon hoff yr anwyl Teida Wyn.


Niwl caddugol yn gorchuddio
'R bryniau pell a mantell ddu,