Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A chedwir hen arferion yr Hafod eto 'n ir
Gan deulu dedwydd Ifor Wyn, ac arddel maent y gwir;
Y praidd a geir yn pori ar ben y Mynydd Du,
A swn bugeiliol glywir draw oddeutu drws y ty,
Y Beibl mawr ddarllenir—hen Feibl Teida Wyn—
Ac yn y teulu fe geir hwn yn nghadw hyd yn hyn;
Tra bugail yn yr Hafod i wylio 'r defaid mân,
Bugeilio wna'r hen Feibl mawr hyd fryniau Canaan lân.


LLINELLAU DYHUDDOL
Am Meyrick, anwyl blentyn Mr. a Mrs. Jones, Trawsfynydd

WAITH rhy anhawdd yw darlunio
Beth yw colli plentyn mâd,
Nid oes dim all ei ddesgrifio
Ond dwys deimlad mam a thad;
Y mae teulu Pant y Celyn
Heddyw'n gwybod beth yw hyn,
Er fod MEYRICK eu hoff blentyn
Yn y nef yn angel gwyn.

Gwywo, gwywo, wna'r blodeuyn
Dorir ymaith ar y ddol;
Gwywo, gwywo, wnaeth y plentyn
Y galarwn ar ei ol;
Cyn ymagor, cyn difwyno
Ei ddihalog wisg erioed,
Fe aeth MEYRICK bach i urddo
Coron Crist yn bum' mlwydd oed."

Fe adawodd ei deganau
Ar ei ol cyn myn'd i'r nef,
Yno cafodd aur delynau
I'w ddyddanu yn eu lle;
Ah! rieni, nid i'w fagu
Y rhoed ef i chwi gan Dduw;
Na, anwylun i'w anwesu
Fu eich plentyn tra bu byw.