Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HEN GLOCH Y LLAN

HEN gloch y llan, hen gloch y llan,
Yn galw 'rwyt o hyd,
Mae'th gnul yn treiddio'r bryniau ban
Trwy oesau t'wyll y byd:
Ti elwaist, do, ar Beuno gynt,
Pan oedd mewn rhwysg a bri,
Mae'th sain mal trydan yn y gwynt
Yn galw arnom ni.

Hen gloch y llan, hen gloch y llan,
Mae ynot ti rhyw swyn,
A denaist lawer tua'r fan
I wrando'th nodau mwyn;
A gwelaist, do, 'rol to o blant
O oes i oes yn dod,
A gwelaist hefyd lawer sant
Yn eiriol am dy nod.

Hen gloch y llan, hen gloch y llan,
Hudolus yw dy lais,
A chymorth fuost ti i'r gwan
Yn erbyn brad a thrais ;
Os bu'r gelynion erchyll gynt
Yn curo ar bob tu,
I'r Cristion ffyddlon ar ei hynt
Dy gnul, yn ffyddlon fu.

Hen gloch y llan, hen gloch y llan,
Pan byddo 'r byd ar dân,
A'r meirw 'n codi gylch y fan
A'u gwedd yn bur a glân,
A phan ehedant fyny fry
Ar edyn engyl gwiw,
Ffarwelio byddi di a'r llu
Wrth ddor anfarwol Duw.