MOR DDEDWYDD 'ROEDDEM NI
Yn nhroed y rhiw, ar fin y nant,
Mae bwthyn bychan melyn,
Lle bu'm yn gwrando gyda'r plant
Ar fiwsig hoff y delyn;
Mor anwyl ydoedd gwel'd fy nhad,
Ei fysedd ar y tanau,
Yn geni seiniau swynol byw
O'i delyn pan yn chwareu.
Ac O mor ddedwydd 'roeddym ni
Yn swn ei seiniau nefol,
A chredwyf nad oes yn y nef
Ddim canu mwy dymunol.
'Roedd clywed llais fy hoffus fam
Yn canu gyda'r tanau
Yn creu rhyw nefoedd o fwynhad
I mi a'r plant yn ddiau:
Iaith enaid oedd y miwsig hwn—.
Iaith teimlad yr hen Gymry,
Ac nid oes ond angylion syw
Yn deilwng i'w gystadlu,
Ac O! mor ddedwydd, &c.
Mae gwledydd mawrion yn y byd—
Yn llawn o urddas bethau,
Ond nid oes un ond Cymru fâd
All ganu gyda'r tanau:
Awelon tlysion Gwalia wen―
Hen wlad y telynorion,
Ac nid oes gwlad o dan y nen
Mor fwynaidd ei hacenion.
Ac O! mor ddedwydd, &c.
I DEWI MEIRION, BALA
Ai marw yw Dewi Meirion,—ynteu
Mewn cyntun wr mwynlon,
Neu yw dy lwys awen lon
I'w chaffael yn ei chyffion?