CWYN Y CAETHWAS
(Efelychiad)
CAETHWAS wyf o'm cartref dedwydd,
'Rhwn adewais ar fy ol
Er mwyn elw i ddyeithriaid
'Rhai tros foroedd ddaeth i'm hol;
Gwyr o Frydain ddaeth i'm prynu,
Rhoesant olud am fy nerth,
Ac fe 'm rhestrwyd yn eu rhengoedd, -
F'enaid nid oedd hwn ar werth.
Mae fy meddwl yn rhydd eto,
Beth yw rhyddid Prydain Fawr?
Ai llabyddio'r negro druan,
A'i orlwytho ef i lawr?
'Os yn ddu, nis gallaf rwgnach,
Natur imi'r lliw a rodd;
Ond mae'r enaid yr un ffunud
Yn y gwyn a'r du 'r un modd.'
'Ydyw natur wedi rhoddi
Y planhigyn hwn i ni
I'w ddwfrhau a'm dagrau heilltion
'Rhai a lifant arno 'n lli?
Cofiwch chwi y creulon feistriaid
Pan o gylch aelwydydd clyd,
Am y briwiau ddarfych roddi
Ar y caethwas du ei bryd.
'Oes 'na un, fel y dywedwch,
Yn teyrnasu uwch eich pen,
Yn gorchymyn i chwi 'n prynu,
O'i anfarwol orsedd wen?
Ha! gofynwch iddo heddyw
Ydyw'r fflangell greulon gref
Yn cyd-fyned a dyledswydd
Dyn, neu gyfraith fawr y nef.'