Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Na, mae'r ateb yn taranu
Yn udiadau croch y don
Pan yn golchi traethau noethlwn
Affric fawr,—mae'r genad hon—
Yn ymlamu trwy'r gwastadedd
Ac yn rhuo Na, o hyd,—
Yr un yw Duw i'r caethwas druan,
Yr un yw Duw trwy yr holl fyd.'

Trwy ein gwaed yn Affric anwyl
Cyn ein dodi yn eich cell,
O'r fath boenau chwerwon gawsom
Pan yn croesi 'r moroedd pell!
Gorfu ini, pan ein prynwyd,
Yn y farchnad ddynolryw,
Ddyodde 'r oll yn amyneddgar
A'n calonau 'n gleisiau byw!

Na chondemniwch mwy y caethwas
Heb resymau o unrhyw,
Rhaid cael achos hefyd cryfach
Na bod ni yn ddu ein lliw;
Elw ydyw gwraidd y pechod—
Elw gaed trwy 'ch gallu chwi,
Profwch ini faint eich cariad
Cyn amheu ein cariad ni.

ANERCHIAD PRIODASOL
I Mr. a Mrs. Williams, Tynewydd, Llandderfel.

DAU anwyl wedi 'u huno,—a'r gydiol
Aur gadwen sy'n urddo;
A llwyddiant heb ball iddo,
A'i Efa fwyn efo fo.

Dau lanwedd yn cydloni—a welwn
Yn William a'i Lizi;
Dau unwyd er daioni
Yn glod a nerth i'n gwlad ni.