AT Y DARLLENYDD.
Anwyl Ddarllenydd,-
WELE fi yn dwyn ger dy fron lyfr yn cynwys rhai o'm cynyrchion barddonol-ffrwyth llafur caled , ond gwir bleserus , fy oriau hamddenol am rai blynyddoedd. Er fod amryw ohonynt wedi ymddangos cyn hyn yn ngwahanol gyhoeddiadau wyth nosol a misol ein gwlad, nid oeddwn yn hoffi iddynt. fyn'd ar ddisperod . Hyn , ynghyd a pherswad amryw o gyfeillion llengar, a barodd i mi anturio eu casglu yn llyfr.
Y maent yn amrywiol o ran eu natur-ceir ynddynt y lleddf a'r llon. Y mae amryw o honynt wedi bod yn fuddugol ; oes, ddarllenydd, ac y mae rhai ohonynt wedi bod yn aflwyddianus hefyd, er fy ngofid y pryd hwnw. Ond bid fyno am hyny, mawr hyderaf y cei gymaint o bleser wrth eu darllen ag a gefais i wrth eu rhoi wrth eu gilydd.
Dymunaf arnat beidio bod yn llaw-drwm iawn ar y ffaeleddau weli ynddynt, gan gofio mai ar ol llafur a lludded y dydd gyda'm gwaith y bum yn ymboeni uwch eu penau.
Ydwyf, anwyl ddarllenydd,
OWEN LEWIS,
(GLAN CYMERIG .)
Y Bala, Chwefror, 1896.