Fel Duw, fe welai ei ogoniant dwyfol
Yn gosod sylfaen byd ar draeth tragwyddol;
Ond wele 'r Duw yn ddyn rhwng y mynyddau,
Ac yno 'n sylwedd mawr yr holl gysgodau..
A phan y dodwyd ef yn yr Iorddonen,
Ei dad o'r nef anfonodd y golomen,—
Dangoswyd ynddi gywir ddrych o hono
O flaen y byd fel un heb bechod ynddo.
Rhyfeddu wnaethant hwy yn anghrediniol
Pan welsant wyrthiau mawrion yr Anfeidrol,
Nis gallent hwy amgyffred am y Duwdod
Orweddai yn y pur, ddilwgr Hanfod.
Na, na! nis gallent hwy ddim canfod ynddo
Ond 'Mab y Saer' fu yn eu plith yn gweithio,
Yr hwn gyflawnodd ryfedd wyrth y torthan
Ac a ddistawodd nerth yr erchyll donau;
Trwy air o'i enau ef, fe welai 'r deillion
Y Duw yn ddyn yn rhodio gyda dynion.
O ryfedd fawredd, gwelwyd ef yn hyrddio
'R ellyllawg leng gythreulig erchyll hono;
Ac wrth yr elor clywyd ef yn galw
A'i wylaidd lais yn adgyfodi'r marw,
Ac hyd ei ruddiau canaid yn Bethania
Ymlifai dagrau gyda Mair a Martha,—
Yr Iesu 'n wylo dagrau! dwyfol Geidwad!
Y Crist yn wylo dagrau cydymdeimlad!
Ni fynai 'r Iesu glod am ei weithredoedd,
Gwell ganddo ef dawelwch distaw leoedd.
0 swn y dyrfa gyda'i hoff ddysgyblion,
Mewn unig fan, yn ymdrin a'i gyfrinion.
Un noswaith, draw ar gopa mynydd Hermon
Gerbron ei Dad, bu'n arllwys ei holl galon
Mewn gweddi daer am gymborth ei Dad nefol
I'w gario trwy yr arw awr ddyfodol.
Anfesuredig yw y dwyfol gariad,
Anasgrifiadwy yn y gwedd—newidiad.'
Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/99
Prawfddarllenwyd y dudalen hon