Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/217

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

205
Ar fynydd Calfaria y tarddodd yr hedd,
A 'Mhriod sy 'n cadw agoriad y bedd.
2 Nid allai 'r holl foroedd byth olchi fy mriw,
Na gwaed y creaduriaid, er amled eu rhyw;
Ond gwaed y Messiah a'm gwella 'n ddi
boen-
O rhyfedd yw rhinwedd marwolaeth yr Oen!
3 O gariad! O gariad! anfeidrol ei faint,
Fod llwch mor annheilwng yn cael y fath
fraint;
Cael heddwch cydwybod, a'i chànu trwy'r
gwaed,
A chorph y farwolaeth, sef llygredd, tan
draed.
4 Y clod, y gogoniant, y gallu o bob rhyw,
A redo fel moroedd i enw fy Nuw;
Y dechreu a'r diwedd, o'r ddaear i'r nef,
O ras ac o haeddiant yn gyfan yw Ef.
248.
1
YR
M. H.
IACHAWDWRIAETH.
R iachawdwriaeth fawr yn Nghrist,
Swn melus hyfryd yw i'm clust;
Balm cryf i'm clwyfau o bob rhyw,
A chordial im' rhag ofnau yw.
2 Mewn bedd o bechod gorwedd bu
Ein henaid wrth ddrws uffern ddu;
Ond codi 'r ym trwy ras ein Duw,
I weled nefol ddydd a byw.
3 Aed swn yr iachawdwriaeth fawr
O amgylch ogylch daear lawr;
A boed i'r nef a'i lluoedd llon,
Gyfodi eu llef i seinio hon.

Google