Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/37

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3 A Duw sydd yno yn eu plith,
Ni ysgogir un o honynt byth;
Fe 'u cymmorth hwy yn fore iawn:
Y bore byddo mwy na mwy
O bob gwasgfeuon arnynt hwy,
46.
Cair gwel'd ei addewid ef yn llawn.
M. C. C.
1 GOBAITH a nerth i'n yw Duw hael,
Mae nerth i'w gael mewn cyfwng;
Daear, a mynydd, aent hwy i'r môr,
Nid ofnaf f' angor deilwng.
2 Ped ymgymmysgai 'r tir a'r dwfr,
Nid ofnwn gynhwrf rhuad;
Ped ai 'r mynyddoedd i'r môr mawr,
A'r bryniau i lawr y gwastad;
3 Dinas ein Duw fydd lawen lon
Gan loyw afon bywyd;
Yma y mae ei breswylfeydd,
A'i deml lân rydd a hyfryd.
4 Y mae yr Arglwydd gyda ni,
Ior anifeiri luoedd;
Y mae Duw Iacob yn ein plaid,
Gyr help wrth raid o'r nefodd.
47. .
M. C. C.
1 CENWCH a churwch ddwylaw 'nghyd,
Holl bobl y byd cyfannedd;
A llafar genwch i Dduw'r nef,
Gan leisio â llef gorfoledd.
2 O cenwch, cenwch glod ein Duw,
Ein Brenin yw, O cenwch;

Google