3 Daw dydd i'r cyfiawn, tranoeth teg,
Daw iddo ychwaneg estyn;
Daw iddo o'r bedd godiad i fyw,
Deheulaw Duw a'i derbyn.
50.
M. C. C.
10 CESGLWCH ataf fi fy saint,
Y rhai trwy ryddfraint brydferth,
A wnaethant ammod a myfi,
A'i rhwymo hi trwy aberth.
2 Mewn trallod galw arnaf fi,
A dof i ti 'n Waredydd;
Yna y ceni imi glod,
Am droi y rhod mor ddedwydd.
3 Yr hwn abertho imi fawl,
Yw 'r sawl a'm gogonedda;
I'r neb a drefno 'i ffordd yn wiw,
Gwir iechyd Duw a ddysga'.
51.
1
2
3
M. B. C.
TRUGAREDD dod i mi,
Duw o'th ddaioni tyner;
Ymaith tyn fy anwiredd mau,
O'th drugareddau lawer.
Ag isop golch fi'n lân;
Ni byddaf aflan mwyach;
Ond i ti 'm golchi i, fy Naf,
Na'r eira byddaf wynach.
Duw, crëa galon bur,
Dod imi gysur beunydd ;
I fyw yn well tra fwy 'n y byd,
Dod ynof ysbryd newydd.
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/39
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto