4 Gwnaeth E'r ystorm yn dawel deg,
A'r tònau'n osteg gwastad;
Yn llawen ddystaw doent i'r làn,
I'r man y bai 'u dymuniad.
5 Cyffesent hwythau ger ei fron,
Ei fwynion drugareddau;
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
Yn helaeth ryfeddodau.
110.
1
M. 8AU.
R orsedd deheulaw y Tad,
AR
Yr eistedd ein Ceidwad yn awr;
Nid rhaid iddo chwysu byth mwy,
Wrth fwrw i elynion i lawr.
O Sion yr enfyn yr Ion
Ryw eglur arwyddion o'i werth;
Ac ar ei elynion fe fydd
Llywodraeth Preswylydd y berth.
2 O groth y goleuni gwel had,
45
Trwy rinwedd ei alwad a'i ras;
Mewn harddwch sancteiddrwydd ar goedd
Yr enfyn ei luoedd i ma's.
Mor amled, mor laned a gwlith,
Hiliogaeth y fendith a fydd;
I ddofi gwylltfilod y daeth,
Trwy nerth iachawdwriaeth a'i dydd.
3 Offeiriad tragwyddol a fydd,
Fe dyngodd y'r Arglwydd i hyn;
Heb newid, ei ddyben a ddwg-
Ai olwg ar Galfari fryn;
Dyfethir ei gas er eu maint,
Yn nydd ei ddigofaint i gyd;
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/57
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto