Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/61

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Yr Arglwydd rydd i'm gymmorth gref,
Hwn a wnaeth nef a daear.
2 Dy droed i lithro ef nis gâd,
A'th Geidwad fydd heb huno:
Wele, mae Ceidwad Israel lân,
Heb hun na hepian arno.
3 Ar dy law ddëau mae dy Dduw,
Yn Arglwydd ac yn Geidwad;
Dy lygru ni chaiff haul y dydd,
A'r nos nid rhydd i'r lleuad.
4 Yr Ion a'th geidw rhag bob drwg,
A rhag pob cilwg anfad:
Cai fyn'd a dyfod byth yn rhwydd,
Yr Arglwydd yw dy Geidwad.
122.
M. C. C.
49
1 I DY 'r Arglwydd, pan dd'wedent, 'Awn,'
Im' llawen iawn oedd gwrando;
Sai'n traed o fewn Caersalem byrth,
Yr un ni syrth oddiyno.
2 Caersalem lân, ein dinas ni,
Ei sail sydd ynddi ei hunan;
A'i phobl sydd ynddi yn gytûn,
A Duw ei hun a'i drigfan.
3 O fewn dy gaerau heddwch boed,
I'th lysoedd doed yr hawddfyd;
Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon,
A'm cymmydogion hefyd.
4 Ac er mwyn teml lân ein Duw,
Hon ynot yw'n rhagorol;
O achos hyn yr archaf fi
I ti ddaioni rhadol.
Google