Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/64

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3 Fel pe disgynai gwlithoedd llon,
Yn dô dros Sion fynydd;
Lle rhwymodd Duw enneiniad gwlith
Ei fendith yn dragywydd.
134.
M. C. C.
1 WELE, holl weision Arglwydd nef,
Bendithiwch ef lle'r ydych
Yn sefyll yn nhŷ Dduw y nos,
A'i gyntedd diddos trefnwych.
2 Derchefwch chwi eich dwylaw glân,
Yn ei gyssegr-lan annedd;
Bendithiwch Ion â chalon rwydd,
Yr Arglwydd yn gyfannedd.
3 Yr Arglwydd, â'i ddeheulau gref,
Hwn a wnaeth nef a daear,
A roddo fendith fawr ei ras
I Sion ddinas hawddgar.
135.
10
M. C. C.
MOLWCH enw'r Arglwydd nef;
Ei weision ef moliennwch :
Y rhai a saif i'w dŷ a'i byrth,
I'n Duw a'i fawrwyrth cenwch.
2 Can's mawr yw'r Arglwydd yn ei lys,
Mi wn yn hysbys hyny;
Yn mhell uwch law holl dduwiau mân,
Mae'r Arglwydd glân a'i allu.
3 Can's ar ei bobl y rhydd ei farn,
Yr Arglwydd cadarn cyfion;
Ac yn ei holl lywodraeth bur,
Bydd dostur wrth ei weision.
Google