Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/80

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

HYMNAU.
4 Ac os oes stormydd mwy yn ol,
Yn nghadw gan fy Nuw,
Wynebaf arnynt oll yn hy';
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
5 I mewn i'r porthladd tawel clyd,
O swn y storm a'i chlyw,
Y caf fynediad llon, ryw ddydd;
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
16.
1
2
AR
M. 5. 8.
Y FFYNON AR Y BRYN.
R Galfari fryn,
Agorwyd cyn hyn
Ryw ffynon anfeidrol ei rhin;
Hi hollol lanâa
Aflendid a phla,
Hi gàna yr Ethiop yn wyn.
Y gwan mae 'n cryfâu,
Er cymmaint ei fai,
I sefyll wrth Sinai 'n ddi gryn;
Mae 'n symud â'i hedd,
Braw, angau, a'r bedd,
A'u hofnau heb adael yr un.
17.
1
M. 5. 8.
MERCH YR AMORIAD.
AR groesbren pryd nawn,
Cyfiawnder gadd iawn,
A'r gyfraith anrhydedd 'r un dydd:
Trwy rinwedd y gwa'd,
Boddlonwyd y Tad,
Daw Merch yr Amoriad yn rhydd.

Google