Ei amynedd sydd yn rhyfedd
Yn ein goddef hyd yn awr;
Plygwn, plygwn, i'w drugaredd,
Cyn myn'd tan ei lid i lawr.
33.
M. B. D.
GENEDIGAETH CRIST.
1 BLANT ffyddlon Sion, dewch
A llawenêwch i gyd;
Yn mlaen â chwi, fel milwyr da,
Yn llon er gwaetha 'r llid;
O hyfryd ddedwydd awr!
Messiah mawr a gaed;
Henffych i'r dydd a'r bore daeth
Yr iachawdwriaeth rad!
2 Er ini golli 'r hedd,
Yn mharadwysedd wiw,
A bod yn fyr o gadw 'r fraint,
Myn'd tan ddigofaint Duw ;
Ni gawsom Had y wraig
Yn gadarn Graig i'n traed:
Henffych i'r dydd a'r bore daeth
Yr iachawdwriaeth rad!
3 Er gwaethaf Satan sydd
Yn temtio ddydd a nos,
Mae gennym hawl i'r trysor da
Sy 'n para o oes i oes:
Ffordd newydd gafwyd, do,
I deithio at y Tad;
Henffych i'r dydd a'r bore daeth
Yr iachawdwriaeth rad!
4 Drachefn llawenêwch,
C'hwi etholedig ryw,
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/89
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto