Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/86

Gwirwyd y dudalen hon

yn cadarnhau un Mr. Wesley, ac i ba ddyben (pa un ai da ai drwg) y darfu i chwi gam-adrodd ei eiriau ef sydd fwyaf hysbys i chwi eich hun.

Yn atebiad i'r "Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd," &c., cyhoeddodd Mr. Thomas Jones, Dinbych, "Ymddiddan crefyddol (rhwng dau gymydog) Ystyriol a Hyffordd, mewn ffordd ymresymiadol, hanesiol, ac ysgrythyrol; yn nghyd âg ychydig sylwadau ar Lythyr Mr. Owen Davies at yr awdwr, a phrawf o anghysonedd y diweddar Barch. John Wesley mewn amryw bynciau o athrawiaeth. Gan Thomas Jones, Bala: Argraffwyd gan R. Saunderson, 1807." Yr oedd y gwaith hwn yn gyfrol drwchus, o dros 450 o dudalenau. Ond er fod y gyfrol hon yn llyfr cymharol fawr, eto nid yw ond ymosodiad eiddil ar Wesleyaeth, a hyny am nad oedd yr awdwr, yn ol tystiolaeth Dr. O. Thomas (un o'i edmygwyr penaf) "yn gallu myned i mewn yn hollol i'r neillduolrwydd a berthyn i Wesleyaeth fel athrawiaeth efengylaidd, ac ar yr un pryd yn gorwedd ar egwyddorion Arminaidd. O ddiffyg hyn y mae Mr. Jones yn fynych yn gwneyd y gwahaniaeth oedd rhyngddo ef a Mr. Wesley yn fwy nag oedd mewn gwirionedd, o leiaf yn fwy nag oedd yn ymarferol."

Yn mhen ychydig wythnosau ar ol cyhoeddiad yr "Ymddiddan Crefyddol" gan y Parch. Thomas Jones, ymddangosodd llyfr yn atebiad iddo, sef, "Ymddiddan rhwng dau Gymydog, Hyffordd a Beread, yn dangos cyfeiliornadau Calfinistiaeth, yn nghyd â llythyr at Mr. Thomas Jones, yn gwrthbrofi ei brawf ef o anghysonedd Mr. Wesley, a'i sylwadau ar llythyr Owen Davies. Gan Owen Davies. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway, 1807." Mae y gwaith hwn yn gyfrol drwchus o dros 400 o dudalenau, ac yn sicr y llyfr pwysicaf o lawer a gyhoeddwyd yn ystod y ddadl. Nis gellir ei ddarllen heb ganfod ei fod yn deall Arminiaeth a Chalfiniaeth yn llawer gwell na Mr. Thomas Jones, ac addefodd un o'r Calfiniaid, os nad rhagor fod yr amddiffyniad i Mr. Wesley yn ngwyneb y cyhuddiad o anghysonedd a ddygwyd yn ei erbyn gan Mr. Jones, yn cynwys pethau y dylasai Mr. Jones ei hun fod wedi eu hystyried. Daeth y gwaith hwn allan o'r wasg cyn i gyfrol Mr. Jones gael ei derbyn a'i darllen ond gan