Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y Gwyddyl. A gesyd y Proffeswr Rees mai yr amseriad ellir roddi i'r gorchfygiad gan feibion Cynedda Wledig gymeryd lle ydyw rhwng y blynyddoedd 420 a 430. Dywed Nennius ddyfod Cynedda Wledig a'i feibion i'r Deheudir, ac i Wynedd hefyd y mae yn ym ddangos, 146 o flynyddoedd cyn dechreu o Faelgwn—Maelgwn Gwynedd, deyrnasu. Ac os cywir hyn, ac iddo ddechreu teyrnasu tua'r flwyddyn 517, a bod gan Nennius gyfeiriad at Wynedd yn ogystal ag at y Deheudir, yna dygir yr amseriad yn ol i'r 4edd ganrif, ymha un, o'r flwyddyn 328 i'r flwyddyn 389 , y gesyd Dr. W.O. Pughe ddyfododiad Cynedda Wledig. Ond prin y gellir ystyried bod cynifer a 146 o flynyddoedd rhwng dyfodiad y penaeth hwn gyda'i feibion i'r ymgyrch, ag adeg dechreuad teyrnasiad ei orwyr Maelgwn Gwynedd, bydded hyny y pryd y bo. Tybia Syr John Price, neu Humphrey Llwyd, neu bob un o'r ddau, ddarfod i Cynedda anfon ei feibion i'r ymgyrch tua'r flwyddyn 540. Eithr ymddengys fod yr amseriad a ddyry Dr. Pughe yn rhy foreu, a bod yr un nodwyd olaf 'yn rhy ddiweddar. A thebygol nad ellir yn ddiogel ei dynu o'r bumed ganrif. Odan y penawd "Serigi," yn y Man-Gofion yn Ysgrifau Iolo, gosodir allan mai ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid y daeth meibion Cynedda Wledig i Wynedd. A chymerodd prif ymadawiad y rhai hyn le yn neu tua'r flwyddyn 409, ac ymadawodd y llu olaf o'r cynorthwyon a anfonasant yma ymhen oddeutu 24 o flynyddoedd gwedi, neu yn ol Carnhuanawc,[1] ymadawodd y diweddaf o'r byddinoedd Rhufeinig â'r ynys hon o gylch y flwyddyn 446.

Y mae y nifer 129 o flynyddoedd fel hyd amser gormesiad y Gwyddyl yn Ngwynedd wedi cymeryd gafael cryf yn hanesion y Man-Gofion, yn Ysgrifau Iolo. Ac er nad ellir penderfynu yn fanwl at ba ddigwyddiad penodol yn hanes y gormesiad honedig hwn y cyrhaeddant, eto ymddengys yr ymestynant hyd y frwydr y cwympodd Serigi Wyddel ynddi.

Y mae y Man-Gofion hyn yn dra phwysig, yn gymaint ag y dangosant ryw gipdrem o'r helyntion gwaedlyd a fu gynt yn Nghymru rhwng y Cymry a'r Gwyddyl. Ond rhaid addef fod ynddynt groes ddywediadau dybryd, fel ag y mae yn ofynol bod yn ochelgar gyda hwy. A thebygol y dylid edrych arnynt yn fwy fel dangoseg ddarfod i ymladdau gwaedlyd gymeryd lle rhyngddynt nag fel hanesion manwl o'r hyn a fynegant mewn cysylltiad â hwy. Er hyny, ymddengys y ceir ynddynt grybwyllion gwirioneddol. Y mae digon o

brofion i'w cael mewn enwau hen olion, neu fanau yn Ngwynedd, i'r Gwyddelod fod yma yn aros dros ryw hyd o amser. Ond nid yw hyn

  1. Hanes Cymru, Carnhuanawc, tud, 150.