Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Wynedd yn y flwyddyn 267, o'r cyfrif presenol, lawer yn rhy foreu. Canys o dan y penawd "Taliesin" yn y Man-Gofion, dywedir ddarfod i "Taliesin Ben Beirdd" gael ei wahodd i gyfoeth Gwyddnyw ap Gwydion yn arlechwedd arfon a chael braint yno ar Dir a daear, ag yno ymansoddi hyd yn amser Maelgwn Gwynedd, llam y dygwyd hynny oddiamo, ag yno y canes Taliesin ei felldith ar Faelgwn ac ar yr oll a feddai," Tebygol mai wyr i Don oedd y Gwyddnyw ab Gwydion hwn, ac os cywir y syniad yna rhaid bod yr amseriad crybwylledig yn rhy foreu.

Dengys yr achau o dan yr unrhyw benawd mai gorwyr i Gwydion ab Don oedd Math ab Mathonwy. Eithr ymddengys nad yw hyny gywir, oblegid dywed y Trioedd[1] Math ab Mathonwy i ddysgu "Hut" i Wydion ab Don. Ac yn un o'r Mabinogion[2] gosodir Gwydion ab Don yn frawd i Gilfaethwy ab Don, nai i Math ab Mathonwy.

Ceir yn y Man-Gofion, o dan y penawd "Tair Gormes Gwyddyl," y mynegiad dilynol: "Trydydd oedd Don (a Daronwy medd eraill) Brenin Llychlyn a ddaeth hyd yng Ngwerddon ag ynnill Gwlad yno, a chwedi hynny efe a ddug hyd yn Ngwynedd drigain mil o'r Gwyddyl a'r Llychlynwys, ag yno gwarseddu hyd ymhen can mlynedd a naw ar hugain." Llawn mwy cydunol â'r Man-Gofion ydyw mai Don a wnaeth hyn.

Yr un yw Eurnach Hen ag a elwir yn y Man-Gofion o dan y penawd "Gwynedd" yn Urnach Wyddel, ac o dan benawd arall yn Brynach Wyddyl, neu fel ag y mae geiriad y penawd ei hun, Brynach Wyddel. O dan y penawd hwn nodir ei fod yn byw yn oes Macsen Wledig, yr hwn a gollodd ei fywyd yn y flwyddyn 388. Ac os golygir hefyd Owain Vinddu ac yntau gwympo yn oes yr un gwr, yn eu hymladdfa angeuol yn erbyn eu gilydd, yn enwedig os mai mab iddo oedd Serigi Wyddel, yn ol fel y mynegir o dan y penawd "Gwynedd" yn y Man-Gofion, ymddengys na chymerodd hyny le mor foreu. Ac os mai wyr iddo ydoedd, fel y dangosir o dan benawd arall, yr hyn hefyd sydd fwyaf tebygol, nid yw hyny yn ddigon o brawf iddynt ladd eu gilydd yn amser y gwr hwnw. Cyfeirir, fel yr ymddengys, o dan y penawd Brynach Wyddel, at Feirionydd, neu y rhanbarth a'i ffurfia, wrth yr enw Cantref yn unig, lle y dywedir ddarfod i'r ddau hyn ymladd am "Bendefigaeth Gwynedd nid amgen na Maw a Manaw a Mon ag Arfon, A'r Cantref, ar naill a laddes y Llall, ac yn Ninas

Ffaraon y bu hynny, a'r gwaed ar y main hyd yr awr honn."

  1. Myf. Arch. all arg. t. 397.
  2. The Mabinogion Cyf. iii. t. 189-193.