Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/622

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a tharanau a gwlaw oedd wedi bod yn y dref; ond er syndod i bawb ni chawsai y cwmpeini oedd ar ben y Gadair yr un dafn o wlaw , ond cofient eu bod tra yno yn clywed ryw swn dieithr megis odditanynt, yn gystal a'r gwelediad tân y crybwyllwyd am dano yn barod."

Codwyd dau dŷ ger pen y Gadair er achlesu ymwelwyr. Codwyd yr un ar y tu gogleddol, yn y flwyddyn 1823 neu 1824. Y mae yn awr yn ymadfeilio, ac heb neb yn ei ddefnyddio. Saif gweddillion muriau moelion y llall ar y tu dwyreiniol, ac yn ymyl ei phen uchaf. Ymddengys y bu mewn arferiad am bum mlynedd, ac feallai ei codwyd ryw saith mlynedd o flaen y llall. Y mae yr amseriad 1822 ar gareg o'r tu fewn yn yr adeiladwaith arosol o adfeilion y tŷ a godwyd gyntaf, ac hwyrach fod hyn yn brawf ei fod wedi ei godi mor foreu a'r flwyddyn hono o leiaf.

Nid yw hanesiaeth yn mynegu ond ychydig ynghylch Idris Gawr, a rhy brin yr ystyrir fod dim a ddywedir yn mherthynas iddo gan y werin, fel chwedloniaeth neu draddodiad, yn werth brutiad yma. Rhoddir clod uchel iddo yn y Trioedd fel seronydd, yn y modd canlynol: "Tri gwyn Seronyddion Ynys Prydain: Idris Gawr, a Gwydion mab Don, a Gwyn ab Nudd; a chan faint eu gwybodau am y ser a'u hanianau a'u hansoddau y darogenynt a chwenychid wybod hyd yn nydd brawd."

O barth ei amseriad, sylwa y Dr. W. Owen Pughe nas gellir ei benderfynu, — ei fod cyn prifnod hanesyddiaeth. Y mae yn ymddangos fod yn wir nas gellir penderfynu yn benodol pa bryd yr oesai, ond nid yn yr ystyr o ba gyfnod cyfrifiad amser. Canys yn ol yr Achrestrau, yr ydoedd yn byw yn un o ganrifoedd y cyfnod amseryddol presenol ; a gosodir ef yn y rhai hyn yn ddisgynydd o Meirion ab Tibion (Tibiawn ) ab Cynedda Wledig. Ac ymddengys yr oesai y Meirion hwnw yn y bumed ganrif, os na chyrhaeddai i lawr i'r chweched. Ymddengys mai fel yn bumed disgynydd o'r unrhyw Feirion ei gosodir yn gyffredin yn yr Achrestrau, ond nid ydys yn gosod ei hynafiaid o hono i lawr hyd ato yn yr un drefn a'u gilydd yn yr oll o honynt. A thrwy y naill beth a'r llall, nis gellir nodi yn benderfynol hyd yn nod y ganrif yr oesai ynddi. Eithr, yn ol yr Achrestrau hyn, nid yw yn ymddangos y gellir yn ddiogel osod ei amseriad yn foreuach na'r seithfed ganrif, a dichon y gellir ei ddwyn i lawr i'r wythfed neu y nawfed. Ond os ydoedd gyd-oesydd a Gwydion ab Don a Gwyn ab Nudd, tebygol ei fod yn byw yn y bumed neu'r chweched ganrif. Eithr nid yw yn ymddangos fod dim mewn hanesyddiaeth yn eu cyplysu ynghyd, oddigerth y cyfeiriad atynt yn y Trioedd dyfynedig, ac nid yw eu gosodiad yno gyda'u gilydd fel tri seronydd galluog yn ddigon i brofi eu cydamseriad.