Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/121

Gwirwyd y dudalen hon

adeiliadol. Ar "gwymp dyn" yr holid. Toc dyma'r cwestiwn hwn yn dod," A oedd yr Ail Berson yn y Drindod wedi ei fwriadu i ymgnawdoli cyn i ddyn bechu?" Bu tawelwch mawr. Nid oedd neb yn cynnyg ateb. Efallai ei fod yn gwestiwn lled ddieithr mewn Cyfarfodydd Ysgol y pryd hwnnw.

"Dowch, Tomos Williams," meddai'r holwr, gan ail adrodd y gofyniad, "treiwch chwi ef."

"Mi 'rydw i yn credu fod o, John Jones," ebai Tomos, a dyma i chi 'Sgrythyr i brofi,—'Er tragwyddoldeb y'm heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear." A ddaliai yr atebiad feirniadaeth fanol, sydd fater agored. Ond yr oedd ynddo bertrwydd nas gellid peidio ei edmygu. Boddhawyd John Jones yn fawr, ac fe'i derbyniodd fel atebiad terfynol i'r cwestiwn dyrus a ofynwyd ganddo. 'Does yna 'run esboniwr yn y wlad fedrai ateb yn well na hyn—yna," meddai. Safai Moses Jones, y crydd, yn ymyl Tomos, yr hwn, ar ol canmoliaeth yr holwr, a roddodd bwniad iddo, a chyda gwên onest o foddhad ar ei wyneb, dywedodd wrtho,—"Dyna i ti, Moses, be wyt ti'n feddwl, 'rwan?" Ond methai Moses Jones ddweyd dim gan fod rhyw ysfa chwerthin wedi dod drosto wrth weled Tomos yn edmygu cymaint arno ei hun. Ar ol y Cyfarfod Ysgol hwn ystyriai Tomos ei hun yn un o brif awdurdodau duwinyddol y dref a'r gymdogaeth, ac nid oedd neb yn gwarafun hynny iddo.

Yr oedd ar fore Sul ryw dro yn Abergele, neu, o leiaf, yn yr ardal honno. Aeth i'r capel. Y pregethwr oedd y diweddar Barch. John Roberts, Dinbych. Un o Lanrwst oedd ef, a dech-