Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/126

Gwirwyd y dudalen hon

Mi neiff bara am byth. Pan fydd dyn yn mynd i brynnu siwt o ddillad, os bydd o'n ddyn a rhywbeth yn ei ben, mae o'n sicr o brynnu'r un neiff bara hwya iddo fo. Yrwan, mae gen i hen Lyfr yn y ty acw sy'n adferteisio siwt neiff bara am dragwyddoldeb,— Gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu.' Dyna i chi siwt! Mi wna'r tro ymhob tywydd, a thydi hi byth yn mynd allan o'r ffasiwn. Fydd yna ddim rhych na blotyn arni hi ymhen can mil o flynyddoedd."

Oddiwrth hyn llithrodd ymlaen i son am un o'i bynciau mwyaf hoffus, sef y goncwest ar y Groes.' "Mi 'rydw i," meddai, "yn cofio yn amser battles mawr Napoleon a Wellington, fod yna gannoedd o hono ni, a Wellington hefo ni, yn gorffwys wedi blino'n arw, mewn rhyw ddyffryn bach, cul. Mi 'roedd Wellington wedi anfon un officer yn bell allan i edrach beth oedd yn dwad o sowldiwrs Napoleon. 'Roedda ni'n ddigalon iawn wrth ei weld o mor hir yn dwad yn ol. Ond toc dyna swn carnau ei geffyl, ac mewn un chwinciad dyna Wellington allan o'i dent, ac yn rhedeg i'w gwarfod dan waeddi nerth esgyrn ei ben,—What about the enemy?' (Beth am y gelyn?), a dyma'r llall yn lle fain yn ei ol hynny fedrai o, In full retreat!' (Ar lawn encil!). Chlywsoch chi rioed ffasiwn ganu a hwrê oedd yn ein plith ni wedyn. Dyna fel yr oedd hi tua'r nefodd, welwch chi, pan oedd batl fawr Calfaria fryn yn mynd ymlaen. Mi 'roedd Trugaredd wedi cael ei hanfon allan i edrach sut yr oedd petha yn mynd yng nghymdogaeth Jerusalem, ac wrth ei gweld hi yn hir yn dwad yn ei hol, yr oedd y Royal Family yn