Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/129

Gwirwyd y dudalen hon

Waeth heb aros yn hir gydag ef yn rhosydd Moab. Ceisiaf roi ychydig ddesgrifiad ohono y noson olaf y bu fyw. Dywedai yn fynych mai am farw fel sowldiwr, ac nid fel gwerthwr almanaciau a cherddi, yr oedd, a chafodd wneyd hynny, fel y ceisir dangos.

Dros ei nos olaf daeth John Jones, un o'i gyfeillion goreu, i aros gydag ef ac i weini arno. Yr oedd Tomos yn nodedig o siriol, a thuedd at fod yn dra pharablus ynddo. Bu ymddiddan tebyg i hyn rhwng y ddau.

J. J.-Sut yr ydach chi'n teimlo heno, Tomos Williams?

T. W.--O, yn grand, fachgan. Mae fy hegla i, wyddost, dipyn yn stiff; ond mae nhw'n shiapio'n ara deg. Mi fydd y bobol yma, sy fel fi'n cael eu trwblo gan y riwmatis, yn mynd i ffwr yn bell i ryw ffynhonna, ac yn cael rhwbio'u haeloda hefo'r dŵr, a thrwy hynny yn amal iawn yn mendio ac yn sionci'n riol wedyn. Ond tydw i ddim am fynd i'r un ffynnon na llyn. Mae'r Brenin mawr ei hun am gymhwyso dŵr yr Iorddonen honno y canodd Ifan Ifans[1] mor ardderchog am dani hi, at y' nghorpws i. Yn wir, mae O wedi dechreu ar y busnes ers mityn. Mae O 'n rhwbio, a finna'n canu-

"O golch fi beunydd, golch fi'n lân,
Golch fi yn gyfan, Arglwydd ;
Fy nwylaw, calon, pen, a'm traed,
Golch fi a'th waed yn ebrwydd."


  1. Ieuan Glan Geirionnydd. Bu'r ddau farw o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd.