Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/131

Gwirwyd y dudalen hon

bod hi'n tynnu at yr amser i'r hen Gapelulo ddwad adre o'r rhyfel; y buo fo'n ffyddlon hyd angeu; a'i fod o wedi ennill digon o fedals, fod yn rhaid iddo fo gael promotion. "Rwan, Gabriel," medda fo, tipyn chwaneg o shein ar y goron yna; a dos i wardrôb nymbar 1, a dwg allan y wisg ora—y royal mantle grandia sydd 'no: mae'r hen warrior o Lanrwst yn mynd i gael ei osod gyda thywysogion ac i deyrnasu yn oes—oesoedd." Fyth o'r fan i, oedd Gabriel yn peidio bod dipyn yn jelws, dwad?

"'Rwan," medda fo, wedyn, wrth yr Archangel, "well i ti gael dy rijment yn barod dan marching ordersi fynd i lawr ato fo. Cymrwch chi ofol o'r sant fel na fydd i'w droed daro hyd yn oed wrth garreg."

Ac mewn chwinc, wel di, John, mi ganodd Gabriel ei gorn, a dyna Fusiliers Paradwys am y cynta yn bowio ac yn presentio arms ger ei fron o Mi ddarllennodd ynta y Royal Commissiwn iddynhw, fod Tomos Williams—un o saint y Duw Goruchaf—wedi dwad i'w oed, ac fod rhaid mynd i lawr i gefn yn Stryd Ddinbach, Llanrwst, i'w 'nol o, dan ganu a llawenychu, i gymryd meddiant o'i stât ddihalogedig a diddiflanedig, oedd wedi ei phrynnu iddo ar Galfaria hefo gwaed ei Frawd hynaf— Tywysog y Bywyd. A dyna nhw yma, fachgen. Napoleon yn son am ei grand army, wir! Pw, 'doedd honno yn ddim ond fel haflig ddirôl o Red Indians yn ymyl hon. A chyfadde'r gwir, mi rôn i yn i disgwil nhw'n ddistaw ers dyddia. Ond ddaru mi ddim breuddwydio y basa cymin yn dwad. Peth naturiol oedd i mi ddechra ofni nad oedd gen i ddim accommoda-