1593, at ei wraig a'i bedair geneth fach. Nid oedd ganddo ddim i'w adael iddynt ond Beibl bob un. Gofyn iddynt, os medrent rywbryd, wneud rhywbeth dros ryw blentyn o Gymru, ac yn enwedig i'w fam oedrannus oedd wedi aberthu drosto pan yn fyfyriwr.
Ac yng Nghefn Brith yr oedd ei fam yn byw, a'i frodyr a'i chwiorydd oedd i ofalu am ei enethod bach na wyddent eto beth oedd gweddi. Ond gadewch i ni anghofio'r dienyddiad hwnnw,—gwyr yr hen oruchwyliaeth yn llofruddio proffwyd y newydd,—ac edrych pa fath le yw ei gartref, dri chan mlynedd ar ôl iddo ei adael.
Es i fyny at y tŷ hyd y ffordd, yr oedd gormod o wlith ar y llwybr. Yr oedd dyn ar ben das gwair yn ei doi, a dywedodd fod "llawer o hynafiaethwyr" yn dod i edrych y lle, — yn enwedig o Landrindod a Llanwrtyd ym misoedd yr haf. Es heibio'r beudy, ac i'r buarth,—lle wedi ei amgylchynu bron gan adeiladau. Ar un ochr i’r ysgwâr y mae’r tŷ, a phorth o'i flaen, a'r coed yn ei gysgodi o’r tu ôl. Yr oedd golwg dawel arno, fel pe buasai wedi ei adael fel y mae er amser Meredydd Penri. Nid oedd dim arwyddion bywyd ond y cunogau llaeth oedd newydd eu golchi yn y porth, a'r hen gi defaid gododd ei ben cysglyd i edrych arnaf.
Es ymlaen heibio’r tŷ i'r caeau. Rhedai aber grisialaidd i lawr o'r mynydd, ac yr oedd coeden