wag wedi ei gwneud yn gafn i'r pistyll. A thraw yr oedd y gweirgloddiau hyfryd, a'r mynydd y tu hwnt iddynt. Nid oedd yno greigiau nac ysgythredd, dim ond mawredd esmwyth a thawelwch. Yr oedd edrych ar drumau prydferth Mynydd Epynt yn rhoi gorffwys i'r meddwl, nid y gorffwys sy'n arwain i ddiogi, ond y gorffwys sy'n arwain i waith. Dyma orffwys fel gorffwys y nefoedd, gorffwys sy'n deffro'r meddwl ac yn ei gryfhau at waith. Nid rhyfedd mai meddwl effro a gweithgar oedd meddwl John Penri. Ni fedd y mynyddoedd hyn fawredd mynyddoedd y gogledd, rhywbeth hanner y ffordd rhwng Bro Morgannwg a'r Wyddfa ydynt. Ac nid rhyfedd mai eu prydferthwch hwy, o'r holl fynyddoedd, ddarganfyddwyd gyntaf, gan rai o'r ardaloedd hyn,—John Dyer a Henry Vaughan. Bûm yn syllu'n hir ar y coed unig welwn hyd drumau'r mynyddoedd, ac yna'n edmygu lliwiau'r rhedyn a'r ysgaw a'r drain. Trois wedyn i wylio'r gwenoliaid oedd wedi nythu tan y bondo, ac yna mentrais i’r tŷ.
Es trwy'r porth, a gwelwn ddrws cegin fawr yn agored ar y llaw dde. Cegin eang, isel do, hen ffasiwn oedd, a llawer o gig moch yn crogi oddi wrth y trawstiau. Yn y pen draw yr oedd lle tan isel, ac ychydig o dan wiail ynddo. Wrth y pentan yr oedd gwr canol oed, a gofynnais hen gwestiwn iddo,—