Yna, wrth i'r gwynt yn y coed ostegu, tybiwn fod ei lais yn tyneru mewn cydymdeimlad, -
“
|
- "Ond yn wir, fy mrodyr, ni phregethwyd yr efengyl i chwi, llenwir fi a gofid wrth glywed gwawdio enw Cymru."
|
”
|
Pe crwydrai ysbryd John Penri heddyw trwy wlad a garai mor fawr, gwelai fod ei weddi dros Gymru wedi ei hateb, a bod addoldai drwy'r broydd fu gynt yn ofergoelus ac yn isel eu moes. Os byth y rhydd Cymru gofgolofn ar odrau Mynydd Epynt i ddweud wrth ei phlant am dano, rhodder arni y geiriau hyn anfonodd o'i garchar, yn ei ddyddiau olaf, at Burleigh, -
“
|
- "Gwr ieuanc tlawd ydwyf, wedi'm geni a'm magu ym mynyddoedd Cymru. Myfi yw'r cyntaf, wedi blodeuad diweddaf yr efengyl yn y dyddiau hyn, lafuriodd i hau ei had bendigedig ar y mynyddoedd anial hynny. Llawenheais lawer tro o flaen fy Nuw, fel y gwyr ef, am y ffafr o'm geni a'm magu dan ei Mawrhydi, er mwyn gwneud y gwaith. Yn fy nymuniad cryf i weled yr efengyl yng ngwlad fy nhadau, ac i weled symud y llygredigaethau a'i rhwystra, hawdd oedd i mi anghofio fy mherygl fy hun; ond ni anghofiais fy nheyrngarwch i'm Tywysog erioed. Ac yn awr pan wyf i orffen fy nyddiau, a hynny cyn dod i hanner fy mlynyddoedd yn ôl trefn natur, yr wyf yn gadael llwyddiant fy llafur i'm cydwladwyr a gyfyd yr Arglwydd ar fy ôl i, i orffen y gwaith, yr hwn, wrth alw fy ngwlad i wybodaeth am efengyl fendigedig Crist, a ddechreuais i."
|
”
|
Trwy holl droeon hanes Cymru, nid oes dim mor huawdl i deimlad Cymro ag ewyllys John Penri, — pedwar Beibl, gofal ei fam, a llwyddiant ei waith.