GLAS YNYS
Pan fûm i drwyddi, tybiwn mai priodol iawn fyddai galw bro Elis Wyn yn Wlad Gwsg. Tybiwn fod rhywbeth yn ddieithr yn ei goleuni, a bod su esmwyth yn tonni trwy ei hawyr o hyd. Prin y teimlwn y gwahaniaeth rhwng bod yn effro ac ynghwsg ynddi. Yr oeddwn fel pe'n breuddwydio wrth gerdded drwyddi; a phan ddoi gwsg, nid oedd breuddwyd yn newid dim ar y wlad. Y mae delw'r wlad ar y gweledigaethau sydd wedi synnu ac wedi dychryn cymaint. Nis gallasai'r bardd ddychmygu fel y gwnaeth am y byd ac angau ac uffern, ond mewn gwlad fel hon.
Un peth trawiadol ynddi ydyw ei distawrwydd. Nid yn unig y mae'n ddistawach na gwlad boblog, lawn o bentrefydd; y mae'n ddistawach na mynydd-dir eang unig y Berwyn neu Bumlumon. Ni fûm mewn lle distawach erioed. Y mae'r don i'w gweled yn symud draw ymhell yn ewyn i fyny'r traeth, ond mewn distawrwydd perffaith. Y mae'r wylan yn ehedeg uwch ben; ond, o ran pob swn, gallai fod yn ddarlun o wylan ar ddarlun o awyr. Ac y mae'r mynyddoedd mawr yn gorwedd yn berffaith ddistaw yng ngwres y canol-ddydd haf;