hwy oedd yn ustusiaid, hwy oedd yn rheoli ymhob man. A dysgeidiaeth pulpudau'r oes oedd fod yn rhaid ymostwng iddynt. Ond trinnir yr ustusiaid a'r cyfreithwyr a'r physygwyr yn ddiarbed yng ngweledigaethau Bardd Cwsg. Ie, unwaith clywodd chwerthin yn uffern, —
“ |
"A mi yn dyfod allan o'r gilfach ryfeddol honno, mi a glywn gryn siarad; ac am bob gair y fath hyll grechwen a phed fuasai yno bum cant o'r cythreuliaid ar fwrw eu cyrn gan chwerthin. Ond erbyn i mi gael nesáu i weled yr ameuthyn mawr o wenu yn uffern, beth ydoedd ond dau o bendefigion newydd ddyfod, yn dadleu am gael parch dyledus i'w bonedd; ac nid oedd y llawenydd ond digio’r gwir boneddigion. Palff o ysgwier a chanddo drolyn mawr o femrwn, sef ei gart achau, ac yno yn datgan o ba sawl un o'r Pymtheg Llwyth Gwynedd y tarddasai ef; pa sawl Ustus o heddwch, a pha sawl Sirydd a fuasai o'i dy ef. 'Hai, Hai,' ebe un, 'nid ych chwi ond aer y fagddu, fflamgi brwnt, prin y teli i ti lety noswaith,' eb efe, 'ac eto ti a gâi ryw gilfach i aros dydd:' a gyda'r gair, dyma'r ellyll ysgethrin a'i bicfforch yn rhoi iddo, wedi deg tro ar hugain yn yr wybr danbaid, ond oedd ef yn disgyn i geudwll allan o'r golwg." |
” |
Y mae'n hawdd gweld athrylith Elis Wyn oddi wrth y gosb rydd i bob un yn uffern. Nis gwyr y darllenydd yn iawn beth i'w wneud wrth ddarllen hanes y gosb, pa un ai dychryn ai chwerthin, gan mor anisgwyliadwy ydyw'r gosb, ac eto mor naturiol. Y meddw, y rhegwr, yr aflan, y rhodreswr, y chwedleuwr,— y maent i gyd yn y fro erchyll honno wrth eu hen waith. Er esiampl, cymerer y pedwar ffidler oedd newydd farw, ac oedd yn eu bywyd wedi bod yn fwy lwcus am gynulleidfa na'r person, —
“ |
"'Ffwrdd, ffwrdd, a'r rhai hyn i wlad yr anobaith,' ebe'r brenin ofnadwy; 'rhwymwch y pedwar cefn-gefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu fyth heb na chlod na chlera." |
” |