Ond dyma Lanfair yn y golwg. Dacw'r eglwys y bu Elis Wyn yn gwasanaethu ynddi, a'r lle y claddwyd ef. Y mae gwlad agored brydferth Llanfair a Llanbedr o'n blaenau. Y mae’r môr gryn bellter oddi tanom, a thraw ar ei lan wele eglwys fechan Llandanwg. Pentref bychan ydyw Llanfair, rhyw ychydig o dai o boptu i'r ffordd. Gydag i mi gyrraedd y pentref ymgasglodd lliaws o'r plant, rhai yn awyddus am rywbeth i'w weled neu i’w wneud, o'm cwmpas. Nid oedd yr un o honynt wedi clywed gair am Elis Wyn nac am weledigaethau Bardd Cwsg. Yr oeddynt yn foddlon iawn i'm gwasanaethu, a medrodd un o honynt gael allwedd y fynwent ac allwedd yr eglwys i mi. Saif yr eglwys hir a'i thalcen i'r mynydd, o fewn mynwent lawn a threfnus.
Yr oedd hanner arswyd arnaf wrth fynd i'r eglwys, ac yr oedd y plant a'm dilynent mor ddistaw â phe gwybuasent fod Bardd Cwsg, un ddychmygodd weled pethau mor ofnadwy, yn huno yno. Y mae'r allor yn llenwi y pen agosaf i'r mynydd o'r eglwys, o fur i fur. Hysbyswyd fi fod lle'r allor yn fyrrach unwaith, a bod lle i un set rhwng yr allor a'r mur. Tan y set honno, set Glas Ynys, a gladdwyd y Bardd Cwsg; ond erbyn hyn y mae'r allor dros ei orweddle. Ac ni wyddai plant ei bentref, oedd mor ddistaw â llygod yn yr eglwys dawel, ddim am ei waith nac am ei enw.