Troais i unig westy'r pentref i ofyn lluniaeth, oherwydd yr oedd erbyn hyn yn hen brynhawn. Tra'r oedd y forwyn yn gosod y lliain ar y bwrdd mewn parlwr bach cysurus ddigon, gofynnais iddi,—
"Yn yr eglwys yma y claddwyd Elis Wyn o Lasynys, ynte?"
"Hwyrach wir, syr, ond 'doeddwn i'n nabod mo honno fo."
Yr oedd gwr y gwesty gerllaw, ac amryw las hogiau yn y gegin, ond nid oedd yr un o honynt yn gwybod dim am Elis Wyn. Dywedodd un y gallai'r ysgolfeistr fod yn gwybod, fod llawer o bethau yng nghadw yn ei ben ef, ond ei fod ar ei wyliau ar hynny o bryd.
Wedi tê troais yn ôl tua Harlech, a daethem at y ffordd sy'n arwain i lawr at Landanwg a min y môr. Gwelwn mai rhibin hir iawn o ffordd ydoedd, ond daeth awydd angerddol drosof am weled gorweddfan Siôn Phylip. Ac i lawr a mi, hyd ffordd ddigon tolciog, nes cyrraedd ty neu ddau heb fod nepell o lan y môr. Dywedwyd wrthyf na fu claddu ym mynwent Llandanwg ers blynyddoedd, ac nad oes un math o wasanaeth ynddi'n awr. Croesais ffrwd ddwfr, a chefais fy hun mewn cae gwyrdd o flaen yr eglwys. Yr oedd y llecyn yn un hyfryd ar y nawn haf hwnnw. Chwythai awel