dros y môr, ag iechyd ar ei haden, ac yr oeddwn yn meddwl fod y ffrwd oedd ar golli yn y môr yn berffaith gloyw, fod y glaswellt yn berffaith wyrdd, a bod yr awyr yn berffaith bur.
Bechan iawn ydyw'r eglwys, a dieithr yr olwg arni. Ni welais ond llwybr i fynd ati, a hwnnw'n eithaf anodd ei gael. Y mae porth i fynd trwyddo i'r fynwent, ar gyfer ffenestr fawr y dwyrain. Y mae drws yr eglwys i'r stormydd a’r môr. Saif yr eglwys yn llythrennol ar fin y môr, ac y mae'r tywod luchiwyd gan ystormydd hyd ei llawr. "Llan dan wg y môr" ydyw ystyr ei henw, ebe un hen ramadegydd gyfarfyddais. Mynwent unig a thawel, hyd yn oed ymysg mynwentydd, ydyw. Y mae'r eglwys yn wag oddigerth fod yno ychydig o hen goed derw. Anaml, yn sicr, y bydd neb yn torri ar unigedd y fan. Y mae enwau ffermydd yr ardal ar y cerrig beddau, ond yr wyf yn meddwl mai anaml y cleddir yno'n awr. Gwelais fedd Siôn Phylip, wedi tipyn o chwilio ymysg y twmpathau gleision a'r cerrig beddau mwsoglyd. Y mae yng nghysgod yr eglwys, yn union dan ffenestr y dwyrain. Wrth dynnu’r mwsogl oddi ar y ddwy lythyren a'r dyddiad a'r englyn sydd ar y garreg, ceisiwn gofio peth o Gywydd yr Wylan, cywydd gorau Siôn Phylip. Ac yn sicr ddigon yr oedd gwylan unig yn hofran uwch fy mhen, fel pe'n gwylio bedd y bardd a'i darluniodd.